Mae protestwyr wedi tarfu ar ffyrdd a rheilffyrdd yng Nghatalwnia wrth iddyn nhw brotestio yn erbyn y ffordd y mae Sbaen wedi trin arweinwyr sydd o blaid annibyniaeth.

Undebau gweithwyr sydd o blaid annibyniaeth sydd wedi trefnu’r protestiadau yn dilyn carcharu nifer o arweinwyr.

Mae Catalwnia bellach yn nwylo Sbaen yn dilyn refferendwm annibyniaeth ar Hydref 27 oedd yn cael ei ystyried yn anghyfreithlon gan yr awdurdodau.

Fe fydd etholiadau’n cael eu cynnal yn Sbaen fis nesaf, lle mae pleidiau o blaid annibyniaeth yn gobeithio ennill seddau er mwyn galw o’r newydd am gael gwahanu oddi wrth Sbaen.

Ymhlith y ffyrdd lle mae protestwyr wedi ymgynnull mae’r AP7 yn Girona, un o’r prif ffyrdd sy’n cysylltu Sbaen a Ffrainc.

Mae mwy na 60 o heolydd yn wynebu oedi yn sgil y protestiadau, a’r bwriad yw atal mynediad i nifer o’r dinasoedd mwyaf yng Nghatalwnia sy’n gwasanaethu gweddill Sbaen.

Mae trenau wedi dod i stop hefyd ar ddwsinau o reilffyrdd ac mae protestwyr wedi llwyddo i osgoi’r heddlu yng ngorsaf Girona.