Mae o leiaf 26 o bobol wedi’u lladd yn Nhecsas dros y Sul ar ôl i ddyn saethu at bobol mewn eglwys yno.

Ymysg y rhai sydd wedi’u lladd mae plentyn mor ifanc â phump oed ynghyd ag oedolyn 72 oed, ac mae tua 20 o bobol wedi’u hanafu.

Digwyddodd yr ymosodiad yn Eglwys y Bedyddwyr yn Sutherland Springs, tref fach yn sir Wilson.

Nid yw’r heddlu wedi enwi’n ffurfiol y dyn sy’n cael ei amau ar hyn o bryd, ond mae adroddiadau yng ngwasg yr Unol Daleithiau’n cyfeirio ato fel Devin Kelley.

Mi gafodd y dyn ei ganfod yn farw yn ei gar wedi’r ymosodiad, ac yn ôl adroddiadau mi’r oedd yn dod o un o faestrefi San Antonio ac nid yw’n gysylltiedig â grwpiau brawychol.

Mae’r Arlywydd Donald Trump wedi trydar o’i daith yn Asia gan ddweud ei fod yn “monitro’r sefyllfa” gyda Greg Abbott, Llywodraethwr Tecsas yn galw’r saethu yn “weithred filain.”