Mae barnwr yn Sbaen wedi gorchymyn carcharu naw o aelodau llywodraeth Catalwnia tra bod ymchwiliad yn digwydd i’r cyhuddiadau sy’n eu herbyn.

Mae arlywydd Catalwnia, Carles Puigdemont, a phedwar aelod arall o’r cabinet wedi ffoi i wlad Belg, ac maen nhw wedi anwybyddu’r gwys i ymddangos mewn llys ym Madrid i gael eu holi.

Mae llywodraeth Sbaen wedi dileu senedd Catalwnia ac wedi “rhyddhau” ei aelodau, gan alw etholiad rhanbarthol ar gyfer Rhagfyr 21 eleni.

 

 

“Mae hyn yn anghyfiawn,” meddai cyn-swyddog plaid ddemocrataidd Catalwnia, Assumpcio Lailla. “Maen nhw’n cael eu hymchwilio am wneud yn siwr fod democratiaeth yn cael ei gweinyddu.

“Dw i ddim yn deall sut y mae Ewrop yn anwybyddu’r hyn sy’n digwydd yma yn enw democratiaeth.”

 

 

Yn ninas Barcelona, roedd miloedd o bobol ar y strydoedd y tu allan i’r palas arlywyddol yn Sgwar Sant Iago er mwyn dangos eu cefnogaeth i’r gwleidyddion.