Mae hi’n annhebygol y bydd arweinydd Catalwnia yn dychwelyd i Sbaen er mwyn ymddangos gerbron llys yfory (ddydd Iau), meddai ei gyfreithiwr yng ngwlad Belg.

“Dyw Carles Puigdemont ddim yn mynd i Madrid,” meddai Paul Bekaert wrth rwydwaith teledu VTM, gan ychwanegu “fel y mae pethau nawr, alla’ i ddim ei weld e’n dychwelyd am rai wythnosau”.

Mae pob un o 14 aelod o Gabinet Catalwnia yn wynebu cyhuddiadau o achosi gwrthryfel am iddyn nhw ddatgan annibyniaeth ar Hydref 27.  Mae’r gosb bosib, yn ol cyfraith Sbaen, yn ddegawdau dan glo.

Mae barnwr wedi gorchmyn iddyn nhw ymddangos gerbron llys yn Madrid ddydd Iau.