Bydd ymwelwyr yn cael eu gwahardd rhag dringo craig fwyaf eiconig Awstralia, yn sgil penderfyniad gan fwrdd o bobol frodorol y wlad.

Mae craig goch Uluru wedi ei leoli ym Mharc Cenedlaethol Uluru-Kata Tjuta ger Alice Springs, ac yn gysegredig i bobol frodorol yr ardal – yr Anangu.

Mae’r safle yn cael ei gau i ymwelwyr ar achlysuron arbennig  ac mae’r bwrdd wedi awgrymu yn y gorffennol y gallai’r safle gau yn barhaol pe tai yna gwymp mewn niferoedd ymwelwyr.

Bellach dim ond 16% o ymwelwyr sydd yn dringo’r graig – o gymharu â 74% yn y 1990au – ac felly mae’r bwrdd wedi penderfynu ei chau yn barhaol o 26 Hydref 2019 ymlaen.

Mae tua 300,000 o bobol yn ymweld ag Uluru pob blwyddyn, a phobol o Awstralia a Japan sydd fwyaf tebygol o’i dringo.

Dyw’r Anangu ddim yn dringo’r graig oherwydd ei phwysigrwydd i’w diwylliant.