Yn sgil honiadau ei fod wedi ymddwyn yn amhriodol ag actor ifanc yn 1986, mae’r seren Hollywood, Kevin Spacey, wedi cyhoeddi ymddiheuriad swyddogol.

Mewn cyfweliad â gwefan BuzzFeed, mae Anthony Rapp – oedd yn 14 oed ar y pryd – yn honni fod yr actor wedi ymddwyn mewn modd rhywiol amhriodol ag ef yn ystod parti yn ei fflat.

“Dw i wir ddim yn cofio hynna,” meddai Kevin Spacey, oedd yn 26 oed ar y pryd. “Ond os wnes i ymddwyn fel hynna, dw i’n ymddiheuro o waelod fy nghalon.”

Mewn datganiad mae’r actor hefyd wedi mynd i’r afael â sïon am ei rywioldeb gan ddatgelu ei fod bellach yn ystyried ei hun yn ddyn hoyw.

Mae Anthony Rapp yn dweud ei fod wedi ei ysgogi i rannu ei brofiad ar ôl i nifer o fenywod wneud honiadau yn erbyn y cynhyrchydd ffilm, Harvey Weinstein.

Mae Harvey Weinstein wedi’i gyhuddo o aflonyddu rhywiol, treisio ac ymosod yn rhywiol. Mae ef yn gwadu honiadau o ryw heb gydsyniad.