Mae arweinydd Catalwnia, Carles Puigdemont wedi galw am ymateb heddychlon i’r camau y mae Llywodraeth Sbaen wedi eu cyflwyno yn sgil y refferendwm annibyniaeth.

Daeth ei sylwadau mewn cyfweliad teledu a gafodd ei recordio a’i ddarlledu o gaffi yn Girona, lle wnaeth e wrthod derbyn y gorchymyn sydd wedi diddymu ei awdurdod e a’i gabinet.

Ar ôl i Gatalwnia gyhoeddi annibyniaeth yn ffurfiol, ymatebodd Sbaen drwy ddefnyddio cyfansoddiad y wlad er mwyn tynnu hawliau oddi arnyn nhw a’u dychwelyd i Madrid.

Ar ôl diddymu Senedd Catalwnia, cyhoeddodd Prif Weinidog Sbaen, Mariano Rajoy y bydd etholiadau newydd yn cael eu cynnal ar Ragfyr 21.

‘Gwlad rydd’

Yn ôl Carles Puigdemont, dim ond Senedd Catalwnia all gael gwared ar y llywodraeth, ac fe addawodd y byddai’n parhau i weithio tuag at “wlad rydd”.

“Y ffordd orau sydd gennym hyd heddiw o amddiffyn y cyflawniadau yw gwrthwynebiad democrataidd i gyflwyno Erthygl 155.”

Mae Erthygl 155 yn rhoi’r hawl i Lywodraeth Sbaen dynnu pwerau datganoledig yn ôl i Madrid.

“Ein hewyllys yw parhau i ateb gofynion y mandadau democrataidd ac ar yr un pryd, ceisio’r sefydlogrwydd a’r tawelwch mwyaf,” ychwanegodd.

‘Datganiad Catalwnia’n annelwig’

Ond yn ôl arbenigwr ar hanes Catalwnia ym Mhrifysgol Caerdydd, Andrew Dowling, roedd datganiad llywodraeth Catalwnia fod y wlad bellach yn annibynnol yn “annelwig” ac nad oedd Carles Puigdemont “yn ymdebygu i arlywydd gwlad newydd”.

“Maen nhw wedi arwain dwy filiwn o drigolion Catalwnia i gredu mewn annibyniaeth, felly mae’n broblem fawr i ddweud wrthyn nhw nawr ei bod hi’n anodd adeiladu gwladwriaeth pan fo gan Sbaen y blaen o safbwynt y gyfraith ar eu hochr.

“Maen nhw’n gaeth yn eu rhethreg eu hunain.”

Llywodraeth Catalwnia

Yn dilyn camau Sbaen yn eu herbyn, dydy aelodau Llywodraeth Catalwnia bellach ddim yn gyflogedig.

Ac fe allen nhw, ynghyd â Carles Puigdemont, gael eu cyhuddo o dorri’r gyfraith ac fe allai hynny ddigwydd mor fuan â dydd Llun, yn ôl erlynwyr.

Er yr awgrym y gallai etholiad arall gynnig “sefydlogrwydd” i Gatalwnia, mae polau cychwynnol yn darogan cryn lwyddiant i bleidiau sydd o blaid annibyniaeth.

Ond does dim lle i gredu ar hyn o bryd y bydden nhw’n ennill mwyafrif.

Mae pwerau tros feysydd sy’n cynnwys addysg, iechyd a phlismona gan Gatalwnia ers marwolaeth Franco yn 1975.

Pwerau yn nwylo Sbaen

Ond mae Catalwnia o dan ofal Dirprwy Brif Weinidog Sbaen, Soraya Saenz de Santamaria am y tro.

Bydd hi bellach yn gofalu am y meysydd datganoledig ac yn adrodd yn ôl i Lywodraeth Sbaen.

Un o’i gweithredoedd cyntaf oedd diddymu grym Josep Lluis Trapero, pennaeth y Mossos d’Esquadra – yr heddlu.

Mae e bellach wedi ymddiswyddo o’r heddlu yn gyfangwbl, ac mae e’n destun ymchwiliad yn dilyn y refferendwm.