Mae llong ofod robotaidd sy’n amgylchynu’r Lleuad wedi tynnu’r lluniau cliriaf eto o’r ôl traed a’r sbwriel adawodd gofodwyr Apollo ar eu holau rhwng 1969 a 1972.

Llwyddodd llong ofod Reconnaissance Orbiter Nasa i hedfan yn ddigon agos i ddangos llwybr y gofodwyr wrth iddyn nhw gerdded ar y Lleuad.

Mae’r lluniau hefyd yn dangos ôl y car bach yr oedd y gofodwyr yn ei ddefnyddio i yrru o amgylch y lleuad, a hyd yn oed bagiau ac offer gafodd eu gadael ar y Lleuad.

Cafodd y delweddau eu saethu pythefnos yn ôl, 13 i 15 milltir uwchben arwyneb y Lleuad. Maen nhw’n dangos safleoedd glanio Apollo 12, 14 ac 17.