Tokyo, Prifddinas Japan
Mae achubwyr yn Japan wedi bod yn cloddio drwy falurion mwdlyd heddiw wrth geisio dod o hyd i’r rheini sydd ar goll yn dilyn teiffŵn sydd eisoes wedi lladd 25.

Mae’n ergyd arall i wlad sy’n parhau i geisio ymdopi â’r difrod a ddaeth yn sgil y daeargryn a’r tsunami ym mis Mawrth.

“Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i achub pobl a chwilio am y rheini sydd ar goll,” meddai’r Prif Weinidog newydd Yoshihiko Noda, a gafodd ei urddo i’r swydd ddiwrnod yn unig cyn y trychineb.

Credir mai’r teiffŵn yma yw’r gwaethaf i daro Japan ers 2004, pan gafodd 98 o bobl eu lladd.

Doedd dim difrod sylweddol yng ngogledd ddwyrain y wlad, lle y bu bron i 21,000 o bobol farw o ganlyniad i’r daeargryn a’r tsunami chwe mis yn ôl.