Mae dirprwy bennaeth Asiantaeth Ofod Rwsia wedi dweud y bydd y Llong Ofod Ryngwladol yn syrthio i’r Môr Tawel o fewn y degawd nesaf.

Dywedodd mai’r cynllun oedd dinistrio’r orsaf ofod er mwyn sicrhau nad oes darn peryglus o sbwriel yn y gofod ar ôl i ofodwyr roi’r gorau i’w ddefnyddio.

Dywedodd mai’r cynllun gwreiddiol oedd i’r orsaf syrthio i’r môr yn 2015, ond bod yr Unol Daleithiau wedi penderfynu ei chadw i fynd nes 2020.

Roedd trafodaethau ynglŷn ag ymestyn bywyd yr orsaf y tu hwnt i hynny, meddai Vitaly Davydov.

Serch hynny, y nod yn y pen draw yw dinistrio’r llong ofod aa fydd yn llosgi’n ulw wrth deithio drwy awyrgylch y ddaear ac yna’n glanio yn y môr.

“Fydd yna ddim sbwriel ar ôl yn y gofod,” meddai.

Mir

Fe wnaeth Rwsia’r un peth â gorsaf ofod Mir, a laniodd yn y Môr Tawel yn 2001 ar ôl 15 mlynedd yn y gofod.

Syrthiodd Skylab, gorsaf ofod gyntaf yr Unol Daleithiau, o’r awyr yn 1979 ar ôl chwe blynedd yn y gofod.

Yr Orsaf Ofod Ryngwladol yw’r fwyaf o’i bath erioed ac mae’n bosib ei gweld o’r ddaear heb ddefnyddio telesgop ac mae’n ddigon mawr i chwe pherson fyw arni.

Mae’n cynnwys sawl modiwl newydd wedi eu hadeiladu gan yr Unol Daleithiau, Rwsia, Canada, Japan ac Asiantaeth Ofod Ewrop.