Atlantis
Mae criw gwennol ofod Atlantis wedi ymweld â’r Orsaf Ofod Rhyngwladol am y tro olaf, heddiw.

Cyn teithio’n ôl i’r wennol ofod sydd ar ei hymweliad olaf â’r gofod cyflwynodd y cadlywydd Christopher Ferguson fodel o Atlantis i griw’r orsaf ofod.

Hefyd cyflwynodd fflag yr Unol Daleithiau, oedd wedi hedfan ar wennol ofod Colombia ar ei thaith gyntaf erioed yn 1981.

Dywedodd ei fod yn flin ganddo nad oedd yn gallu dod a chofeb mwy gydag ef er mwyn nodi diwedd y rhaglen 30 mlynedd gwenoliaid gofod Nasa.

Fe fydd gwennol ofod Atlantis yn gadael yr Orsaf Ofod Rhyngwladol yfory ac yn dychwelyd i’r ddaear ddydd Mawrth, cyn cael ei symud i amgueddfa.

Mae Alantis wedi docio â’r orsaf ofod ers dros wythnos, er mwyn dadlwytho gwerth blwyddyn o fwyd a diod a llwytho eu gwastraff i fynd â fo’n ôl i’r ddaear.

“Rydyn ni wedi dod a’r gofeb gorau yr oedden ni’n gallu dod o hyd iddo, sef model o’r wennol ofod,” meddai Christopher Ferguson.

“Mae’n cynrychioli’r degau o filoedd sydd wedi gweithio ar y rhaglen yma dros y 30 mlynedd diwethaf,”

Mae bron i bob un o ehediadau’r gwenoliaid gofod ers 1998 – 37 i gyd – wedi teithio i’r Orsaf Ofod Rhyngwladol.