Mae oglau hen sanau yn gallu helpu i frwydro malaria drwy ddenu mosgitos at drap, cyhoeddodd gwyddonydd heddiw.

Mae trapiau sydd wedi eu chwistrellu ag oglau traed dynol yn denu pedair gwaith cymaint o fosgitos a gwirfoddolwr dynol, meddai Dr Fredros Okumu, pennaeth ymchwil Sefydliad Iechyd Ifakara yn Tanzania.

Mae unrhyw fosgitos sy’n hedfan i mewn i’r trap yn cael eu gwenwyno.

Dywedodd Dr Fredros Okumu fod gwyddonydd arall, Dr Bart Knols, wedi darganfod fod mosgitos yn hoffi oglau traed drwy sefyll mewn ystafell dywyll yn noeth ac yna astudio lle yr oedd wedi ei frathu.

Ond mae 15 mlynedd wedi mynd heibio cyn i wyddonwyr wneud defnydd o’r wybodaeth, meddai.

Mae rhwydi ar welyau a chwistrelliadau wedi arwain at gwymp sylweddol yn nifer y bobol sy’n marw yn sgil cael eu brathu gan fosgitos.

Ond hyd yn hyn dyw gwyddonwyr heb ddod o hyd i fodd effeithiol o ladd mosgitos yn yr awyr agored.

Mae yna 220 miliwn achos newydd o falaria bob blwyddyn. Yn ôl ffigyrau’r Cenhedloedd Unedig mae 880,000 o bobol yn marw bob blwyddyn, y rhan fwyaf yn blant o Affrica.

“Ni fydd ein nod o gael gwared ar falaria yn fyd eang yn bosib heb dechnoleg newydd,” meddai Dr Fredros Okumu.

Ychwanegodd ei fod wedi dal malaria sawl gwaith ei hun wrth fwrw ati â’i waith yn y maes.