Cafodd terfysgwr yn Indonesia ei ladd gan ei ddyfais ei hun wrth ddysgu plant ysgol Islamaidd sut i greu ffrwydron.  

Yn ôl heddlu’r wlad, roedd y bom a ffrwydrodd wedi cael ei wneud i ladd plismyn.   Mae’r ysgol bellach wedi’i chau gan ddau blatŵn o filwyr tra bod y gwaith o ymchwilio i’r digwyddiad yn mynd yn ei flaen.  

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod y dyn yn drysorydd yn yr ysgol – ond mae adroddiadau yn y wasg lleol yn honni ei fod hefyd wedi bod yn cael hyfforddiant i gynhyrchu bomiau yn ardal Mindanao o’r Pilipinau cyn hynny.  

‘Heddlu’n haeddu marw’  

Daeth yr ysgol ar Ynys Sumbawa, yng nghanol Indonesia, i sylw’r heddlu ychydig wythnosau yn ôl, pan gafodd bachgen 16 oed ei arestio am drywanu un heddwas i farwolaeth.

Mae’r heddlu’ credu ei fod yn perthyn i grŵp milwriaethus Islamaidd, ac iddo ddweud wrth gael ei holi fod yr heddlu yn haeddu marw am erlyn gwyr jihadaidd.  

Mae’r wlad wedi bod yn brwydro terfysgaeth ers 2002 pan ymosododd grŵp milwriaethus â chysylltiadau ag al Qaida ar ddau glwb nos yn Bali, gan ladd 202 o bobol – tramorwyr yn bennaf.  

Yn y misoedd diwethaf, fodd bynnag, mae eithafwyr Indonesia wedi canolbwyntio eu hymdrechion ar dargedu’r lluoedd diogelwch.

Mae grwpiau milwriaethus yn dweud bod arnyn nhw eisiau cosbi’r milwyr a’r heddlu am gymryd rhan yn y ‘rhyfel yn erbyn terfysgaeth’.