Mae hanner-brawd Arlywydd Afghanistan wedi cael ei ladd yn ei gartref yn ne Afghanistan heddiw.  

Wrth i farwolaeth Ahmed Wali Karzai gael ei chadarnau, mae’n ymddangos mai aelod o’i dîm diogelwch a’i lladdodd, gyda gwn AK-47.  

Cyn ei farwolaeth, roedd Ahmed Wali Karzai, a oedd yn bennaeth ar gyngor talaith Kandahar, wedi mynd yn broblem wleidyddol fawr i lywodraeth ei frawd, Hamid Karzai.  

Ond safodd y brodyr gyda’i gilydd drwy’r trwch, a gwrthododd yr Arlywydd unrhyw gyhuddiad fod ei frawd ynghlwm wrth weithgareddau troseddol yn y de.  

Dywedodd yr Arlywydd Hamid Karzai fod y lofruddiaeth yn adlewyrchu dioddefaint pobol Afghanistan, a bod poen y farwolaeth yn cael ei rhannu rhwng holl ddinasyddion y wlad.  

Targed

Mae’n debyg bod Ahmed Wali Karzai wedi bod yn darged i sawl ymgais i’w lofruddio yn y gorffennol.   Ym mis Mai 2009, roedd yn teithio trwy talaith dwyreiniol Nangarhar gyda’i fflyd o geir pan dechreuodd gwrthryfelwyr danio rocedi a gynnau tuag ato. Cafodd un o’i warchodwyr ei ladd, ond fe ddihengodd heb ei anafu.  

Ychydig fisoedd ynghynt, gyrrwyd pedwar hunan-fomiwr gan y Taliban i mewn i swyddfa taleithiol cyngor Kandahar, gan ladd 13 o bobol – roedd Ahmed Wali Karzai wedi gadael ychydig funudau cyn y ffrwydrad.  

Mae Ahmed Wali Karzai yn gadael pump o blant ar ei ôl, dau fab a thair merch – gan gynnwys un mab a aned llai na mis yn ôl.