Mae Gweinidog Amddiffyn Cyprus ac un o benaethiaid y fyddin wedi ymddiswyddo ar ôl i 12 o bobl gael eu lladd mewn ffrwydrad anferth yn un o ganolfannau llynges y wlad.
Cafodd 62 o bobl eraill eu hanafu yn y tanchwa a ddigwyddodd wedi i dân achosi i bowdwr gwn ffrwydro mewn storfa.
Digwyddodd y ffrwydrad yng Nghanolfan Llynges Evangelos Plorakis ar arfordir deheuol yr ynys y bore ’ma, am 6am amser lleol.
Roedd cyrff wedi’u gorchuddio â chynfasau gwyn i’w gweld yma ac acw o gwmpas y ganolfan, gyda gwasanaethau ambiwlans yn ceisio cludo’r rhai a anafwydi ysbytai yn Larnaca a Limassol.
Roedd y meirw’n cael eu cludo i amlosgfa yn Ysbyty Nicosia yn y Brifddinas.
Mae llefarydd ar ran y Llywodraeth wedi dweud y bydd arbenigwyr tramor yn cael eu galw i helpu darganfod achos y ffrwydrad.
Mae’r Llywodraeth wedi datgan cyfnod tri diwrnod o alaru gyda fflagiau ar adeiladau cyhoeddus yn hedfan hanner mast.
Fe fydd angladdau gan y wladwriaeth yn cael eu cynnal i’r rhai sydd wedi marw.
Bydd dwy orsaf bŵer lai yr ynys nawr yn ceisio cyflenwi’r anghenion trydan, ond mae awdurdodau wedi galw ar y cyhoedd i ddefnyddio cyn lleied o drydan â phosib yn y cyfamser.