Somalia, y wlad ar Gorn Affrica sy'n dioddef sycher mawr
Mae pennaeth asiantaeth ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig yn dweud mai sychder Somalia yw “trychineb dyngarol gwaethaf” y byd.  

Daw’r sylwadau gan Antonio Guterres wedi iddo fod yn cwrdd â phobol sy’n newynu ac wedi wynebu caledi enfawr er mwyn cyrraedd Dadaab – canolfan ffoaduriaid mwyaf y byd.  

Mae’r gwersyll yn Kenya bellach yn gorlifo â degau o filoedd o ffoaduriaid newydd, wedi eu gorfodi i’r gwersyll gan y crindir lle mae Somalia, Ethiopia a Kenya yn cyfarfod.  

Mae Rhaglen Bwyd y Byd yn amcangyfrif bod 10 miliwn o bobol eisoes angen cymorth dyngarol, ac mae Cronfa Blant y Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif fod mwy na dwy filiwn o bobol ifanc yn diodddef o ddiffyg maeth, ac angen gweithredu ar frys i achub eu bywydau.  

Mae Antonio Guterres wedi gwneud apêl rhyngwladol ar y byd i roi’r ‘gefnogaeth enfawr’ sydd ei angen ar y miloedd o ffoaduriaid sy’n troi fyny yn y gwersyll bob wythnos.  

Mae mwy na 382,000 o ffoaduriaid nawr yn cael lloches yng ngwersyll Dadaab, gyda miloedd yn fwy yn disgwyl cael mynd i mewn o’r canolfannau mynediad y tu allan.   Mae rhyw 10,000 o bobol yn cyrraedd yno bob wythnos ar hyn o bryd, chwe gwaith y cyfartaledd yr adeg yma’r llynedd.