Mae ynys Cyprus wedi'i lleoli yn nwyrain y Môr Canoldir
 Mae ofnau fod 10 o bobol wedi eu lladd ar ôl ffrwydrad enfawr mewn canolfan llynges yng Nghyprus heddiw.
 
Mae Gweinidog Amddiffyn y wlad wedi methu â chadarnhau union achos ffrwydrad hyd yma.
 
Digwyddodd y ffrwydrad yng Nghanolfan Llynges Evangelos Plorakis ar arfordir deheuol yr ynys y bore ’ma, am 6am amser lleol.
 
Mae teledu’r wlad, CyBC, yn dweud fod y ffrwydrad wedi achosi nifer o anafiadau a difrod difrifol i rai cartrefi mewn pentrefi gerllaw’r ganolfan.
 
Mae darllediadau fideo ar CyBC hefyd yn dangos nifer o geir wedi eu difrodi ac wedi dod i stop ar hyd ffordd fawr ger y ganolfan. Disgrifiodd un gyrrwr y profiad o fynd heibio’r ganolfan adeg y ffrwydrad fel “bom mawr yn cael ei ollwng ar y car.”
 
Gorsaf bwer
 
Heb fod yn bell o’r ganolfan mae prif orsaf bwer y wlad, Vasiliko. Yn ôl swyddog o Awdurdod Trydan Cyprus, cafodd yr orsaf honno ei difrodi’n fawr yn ystod y ffrwydrad, ac fe fydd hi ar gau heddiw o leia’.
 
Bydd dwy orsaf bwer lai yr ynys nawr yn ceisio cyflenwi’r anghenion trydan, ond mae awdurdodau wedi galw ar y cyhoedd i ddefnyddio cyn lleied o drydan a phosib yn y cyfamser.