Mae nifer y marwolaethau o drychineb trên yng ngogledd India ddoe wedi codi i o leiaf 60.

 Mae gweithwyr achub wedi llwyddo i dynnu 100 o bobol o ganol y dinistr yn fyw, ond mae nifer y meirw yn dal i godi.

 Dywedodd un swyddog o’r fyddin fod gwirfoddolwyr a milwyr wedi bod yn gweithio drwy gydol y nos yn ceisio dod o hyd i bobol yng nghanol 12 cerbyd y trên, a aeth oddi ar y cledrau ddoe.

 Ond dywedodd y Cyrnol Amajit Dhillon fod llawer mwy yn dal yn gaeth dan o tren, a bod milwyr nawr yn defnyddio torrwyr nwy i geisio symud y metel oddi ar y cledrau ger tref Fatehpur, yn nhalaith Uttar Pradesh.

 Ail ddigwyddiad

 Yn y cyfamser, mae swyddogion yn dweud bod ail ddamwain tren wedi digwydd neithiwr, gannoedd o filltiroedd i’r gogledd-ddwyrain, ac mai bom oedd yn gyfrifol am hwnnw i bob golwg.

 Mae o leiaf 100 o bobl wedi cael eu hanafu yn y digwyddiad mewn ardal wledig gerllai Assam, ond ni chredir bod cysylltiad rhwng y ddau ddigwyddiad.