Mae o leiaf 31 o bobl wedi cael eu lladd wrth i drên cyflym gorlawn ddod oddi ar y cledrau yng ngogledd India.

Cafodd o leiaf 100 arall eu hanafu yn y trychineb ar odre mynyddoedd yr Himalayas.

Mae gweddillion y trên yn un pentwr o fetel wedi ei ystumio, gydag un cerbyd ar ben rhan arall o’r trên a cherbyd arall wedi dod yn rhydd.

Mae achubwyr yn dal wrthi’n hwyr y nos yno’n torri eu ffordd trwy’r metel i allu mynd i mewn i’r cerbydau i weld os oes rhagor o’r teithwyr yn dal yn fyw.

Mae ofnau, fodd bynnag, y bydd nifer y marwolaethau’n codi.

Dyw hi ddim yn glir eto beth a achosodd y trychineb.