Mae dros gant o deithwyr ar goll ac o leiaf un person wedi boddi ar ôl i long suddo yn afon Volga yng nghanolbarth Rwsia.

Fe ddigwyddodd y trychineb yn rhanbarth Tatarstan, tua 450 o filltiroedd i’r dwyrain o Moscow.

Fe gadarnhaodd llefarydd ar ran y gwasanaethau brys fod dynes wedi boddi a’i chorff wedi ei godi o’r afon.

Dywedodd fod 135 o deithwyr a 47 o griw ar fwrdd y llong ddeulawr pan aeth i lawr tua dwy filltir oddi wrth y lan agosaf. Roedd yr afon yn 65 troedfedd o ddyfnder yno.

Mae’r Volga, afon fwyaf Ewrop, hyd at 19 milltir o led, ac mae’n denu llawer o deithiau pleser gan ymwelwyr, yn enwedig yn ystod yr haf.

Cafodd rhai teithwyr eu codi gan long arall a oedd yn mynd heibio, a llwyddodd eraill i gyrraedd y lan ar rafftiau neu i gael eu hachub gan y gwasanaethau brys.