Yr ymosodiad terfysgol ar Ganolfan Fasnach y Byd 11 Medi, 2001 (o wefan Wikipedia)
Fe fydd y gofeb i ddioddefwyr ymosodiadau 9/11 yn agor ar hen safle Canolfan Fasnach y Byd yn Efrog Newydd ymhen deufis.

Ac mae modd archebu tocynnau ar gyfer amserau penodol dros y rhyngrwyd o yfory ymlaen.

Mae disgwyl y bydd galw anferthol am ymweliadau â’r gofeb pan fydd yn agor am y tro cyntaf ar Fedi 12.

Fe fydd hyn ddiwrnod ar ôl digwyddiadau ledled America i nodi deng mlynedd union ers y digwyddiad erchyll.