Mae tri o filwyr Nato wedi cael eu lladd mewn gwahanol ddigwyddiadau yn Afghanistan heddiw.

Dywedodd llefarydd ar ran y gynghrair ryngwladol i ddau filwr gael eu lladd gan fom ac ymosodiad gan wrthryfelwyr yn y de, ac i’r trydydd farw mewn ymosodiad arall yn y dwyrain.

Does dim gwybodaeth o ba wledydd yr oedd y milwyr yn dod – a llywodraethau gwledydd unigol sy’n gwneud cyhoeddiadau o’r fath fel arfer.

Golyga’r marwoalethau diweddaraf fod 15 o filwyr Nato wedi cael eu lladd yn Afghanistan y mis yma’n unig. Mae’r cyfanswm y colledion yno hyd yma eleni bellach yn 286.