Mae dyn o Gasnewydd wedi ei arestio yng Ngwlad Belg ar amheuaeth o lofruddio Richard Carslake.
Daethpwyd o hyd i gorff Richard Carslake, 48 oed, mewn fflat ar Stryd Jeddo, Y Pîl, ar 6 Ebrill.
Cafodd y dyn 40 oed ei arestio yn Antwerp ac mae Heddlu Gwent yn gobeithio y caiff ei estraddodi i Gymru.
Mae dyn 19 oed o Bont-y-pŵl eisoes wedi ymddangos o flaen llys wedi ei gyhuddo o lofruddio Richard Carslake.