Y Pab Benedict XVI
Mae’r Pab Bened XVI wedi trydar am y tro cyntaf, gan gyhoeddi lansiad gwasanaeth newyddion y Fatican.

“Annwyl gyfeillion, rydw i newydd lansio News.va Moliant i’n Harglwydd Iesu Grist! Bendithion a gweddiau, Benedictus XVI,” meddai.

Mae’r gwefan www.news.va yn casglu at ei gilydd newyddion o gyfryngau print, ar-lein, radio a theledu’r Fatican.

Dyma ymdrech diweddaraf y Fatican i gyrraedd cynulleidfa ar y we, ac mae’n dilyn arbrofi â gwefanau Facebook, Twitter a YouTube.

Dywedodd Thaddeus Jones, cyfarwyddwr y prosiect, fod y Pab wedi cyhoeddi’r safle we ei hun drwy wasgu sgrin iPad.

Eiliadau yn ddiweddarach anfonodd y Pab, 84 oed, ei drydariad cyntaf.

“Roedd ganddo ddiddordeb mawr ac yn amlwg yn mwynhau ei hun,” meddai Thaddeus Jones.

“Roedd yn amlwg yn synnu at y dechnoleg newydd. Mae’n ffordd newydd i ni gyfathrebu â phobol.”

Bydd y Pab yn dathlu 60 mlynedd ers cael ei ordeinio yn offeiriad heddiw.