Muammar al-Gaddafi (Llun gan Stefan Rousseau/PA)
Mae Muammar Gaddafi wedi mynnu na fydd byth yn gadael ei wlad, meddai arlywydd De Affrica ar ôl cwrdd ag arweinydd Libya ddoe.
Mae’r gwrthryfelwyr yn nwyrain y wlad wedi dweud fod yn rhaid i’r unben fynd cyn y bydden nhw’n ystyried dod a’u brwydr i ben.
Dywedodd yr Arlywydd Jacob Zuma mewn datganiad yn dilyn ei ymweliad fod De Affrica yn pryderu am ddiogelwch Muammar Gaddafi.
Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y byddai’r Undeb Affricanaidd yn galw am atal y brwydro dros dro a cheisio datrys yr anghydfod drwy drafod.
Mynnodd fod Muammar Gaddafi bellach yn cytuno mai dyna’r ffordd orau ymlaen.
“Galwodd y Cyrnol Gaddafi am atal y bomio a chaniatáu i bobol Libya drafod,” meddai.
“Mynnodd nad oedd yn barod i adael y wlad, er gwaetha’r trafferthion.”
Roedd Jacob Zuma a’r Undeb Affricanaidd wedi cefnogi ymosodiadau Nato i ddechrau ond maen nhw bellach wedi dweud eu bod nhw’n mynd yn rhy bell.
‘Rhaid gadael’
Yn y cyfamser addawodd Gweinidog Tramor yr Eidal y byddai yn darparu tanwydd a channoedd o filiynau o ddoleri i’r gwrthryfelwyr.
Wrth ymweld â ‘prifddinas’ y gwrthryfelwyr, Benghazi, ychwanegodd Franco Frattini y byddai asedau Muammar Gaddafi ei hun, sydd wedi eu rhewi yn yr Eidal, yn talu am y gost.
“Mae cyfnod Gaddafi ar ben,” meddai Franco Frattini. “Mae’n rhaid iddo lacio ei afael ar rym, a gadael y wlad.”
Mae awyrennau Nato yn bomio Libya bob nos, ac mae brwydrau rhwng y milwyr ar y ddwy ochr, ond does yna ddim ryw lawer wedi newid fel arall ers wythnosau.