Mae twristiaid o Brydain wedi dewis osgoi ymweld ‘r Aifft, Tunisia a Thwrci’r haf yma o ganlyniad i wrthdaro yng Ngogledd Affrica a’r Dwyrain Canol.

Yn ôl arolwg a gyhoeddwyd heddiw gan gwmni Co-operative Travel mae rhagor wedi dewis ymweld â hen ffefrynnau gan gynnwys Ffrainc, yr Eidal a Sbaen.

Mai 30% yn llai wedi dewis ymweld â’r Aifft, 16% yn llai am fynd i Tunisia, a 11% yn llai am fynd i Dwrci.

Roedd nifer y bobol oedd wedi archebu gwyliau i Morocco yn uchel iawn ddechrau’r flwyddyn, ond mae wedi syrthio 53% dros yr wythnosau diwethaf, meddai’r cwmni.

Yn y cyfamser mae nifer y twristiaid sy’n teithio i Ffrainc wedi cynyddu 31%, nifer y teithwyr i’r Eidal i fyny 15%, a nifer y teithwyr i Sbaen i fyny 11%.

Dywedodd Co-operative Travel fod costau yn ogystal â phryderon am ddiogelwch wedi effeithio ar benderfyniadau twristiaid o Brydain.

“Rydyn ni’n credu mai’r gost sy’n bennaf gyfrifol am y cwymp yn nifer y teithwyr i Dwrci,” meddai cyfarwyddwr y cwmni, Mike Greenacre.

“Dyw Twrci heb wynebu’r un problemau a Morocco, yr Aifft, Tunisia and Twrci, ond yn dioddef oherwydd bod pobol yn cymharu prisiau â Gwlad Groeg, sy’n cynnig gwyliau eithaf tebyg.

“Dros yr wythnosau diwethaf mae prisiau wedi syrthio’n gyflym wrth i drefnwyr gwyliau geisio llenwi seddi gwag.”