Muammar al-Gaddafi (Llun gan Stefan Rousseau/PA)
Mae gwrthryfelwyr Libya wedi lansio eu sianel deledu eu hunain, er mwyn gwrthwynebu sianel bropaganda swyddogol llywodraeth y wlad.

Hyd yn hyn mae’r unig newyddion y mae pobol Libya wedi ei dderbyn yn rhoi safbwynt Muammar Gaddafi, a chyhuddo’r gwrthryfelwyr o fod yn derfysgwyr.

Dechreuodd sianel Libya Alhurra, neu ‘Libya Rydd’, ddarlledu neithiwr.

Mae’n gam mawr ymlaen ym mrwydr y gwrthryfelwyr i gysylltu’n uniongyrchol â phobol Libya.

Ymgasglodd miloedd o bobol Libya mewn sgwâr cyhoeddus ym mhrif ganolfan y gwrthryfelwyr yn ninas Benghazi er mwyn gwylio’r darllediad cyntaf ar sgrin fawr.

“Dyma yw rhyddid. Rydw i’n gobeithio fod hyn yn dangos gwir farn pobol Libya a’u ffydd mewn Libya newydd, rydd,” meddai cyd-sylfaenydd yr orsaf newydd, Zuhair Albarasi.

“Mae cyfryngau Gaddafi yn effeithiol iawn. Mae yna lawer iawn o bobol yn parhau i gredu ei bropaganda, hyd yn oed yma yn Benghazi.”

Lansiwyd y sianel ar gefn safle fideo ar y we oedd wedi ei greu gan Zuhair Albarasi a dyn busnes arall o’r wlad, Mohammed al-Nabbous.

Cafodd Mohammed al-Nabbous, 27 oed, ei ladd gan saethwyr wrth geisio ffilmio gwrthryfelwyr oedd yn brwydro tanciau Muammar Gaddafi.

Cafodd Benghazi ei achub y diwrnod hwnnw gan yr ymosodiadau cyntaf o’r awyr.