Syrthiodd nifer y ceir cafodd eu cynhyrchu yn Japan 60.1% ym mis Ebrill o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, yn dilyn y daeargryn a tsunami trychinebus ym mis Mawrth.

Cafodd sawl busnes oedd yn darparu darnau ceir eu difrodi yng ngogledd ddwyrain y wlad lle y tarodd y tsunami.

Dywedodd Cymdeithas Cynhyrchwyr Ceir Japan heddiw fod 292,001 o geir wedi eu cynhyrchu yn y wlad fis diwethaf, cwymp sylweddol ar y 731,829 ym mis Ebrill y flwyddyn flaenorol.

Nid y tsunami oedd yn gwbl gyfrifol am y cwymp – mis Ebrill oedd y seithfed mis yn olynol y gwelwyd cwymp yn nifer y ceir a gynhyrchwyd o’i gymharu â’r un mis y flwyddyn flaenorol.

Does dim disgwyl y bydd ffatrïoedd ceir Japan yn gallu cynhyrchu’r un faint o geir a chyn y daeargryn nes diwedd y flwyddyn.