Mae llywydd Fifa, Sepp Blatter, yn mynnu nad oes argyfwng mewn pêl-droed rhyngwladol, ac nad oes “unrhyw broblemau” ynghylch dewis Qatar fel lleoliad gemau Cwpan y Byd 2022.

Rhoddodd gynhadledd i’r wasg ar ei ben ei hun heddiw wrth i honiadau a gwrth-honiadau am lygredd gael eu taflu ymysg uwch-swyddogion y corff llywodraethu pêl-droed rhyngwladol.

Roedd yn siarad ar ôl i ysgrifennydd cyffredinol Fifa, Jerome Valcke, gamu i’r ffrae, trwy gadarnhau iddo anfon e-bost yn honni bod gemau Cwpan y Byd 2022 wedi “cael eu prynu”.

Fodd bynnag, mynnodd yn ddiweddarach ei fod yn cyfeirio at Qatar yn defnyddio’u “nerth ariannol” i lobïo’n gyfreithlon am bleidleisiau.

Yn sgil yr honiadau am lygredd, Sepp Blatter yw’r unig ymgeisydd am lywyddiaeth Fifa yn yr etholiad ddydd Mercher.