Silvio Berlusconi, Prif Weinidog yr Eidal
Mae prif weinidog yr Eidal, Silvio Berlusconi, wedi cael ei wanhau ymhellach wrth i’w blaid wneud yn wael mewn etholiadau lleol trwy’r wlad.

Mae plaid Berlusconi wedi cael ei churo mewn dwy o ddinasoedd pwysicaf y wlad, Milan yn y gogledd, a Naples yn y de.

Roedd y prif weinidog dadleuol eisoes mewn helynt oherwydd y sgandalau rhywiol a’r cwymp yn ei boblogrwydd mewn arolygon barn, ac mae colli ym Milan, ei brif gadarnle, yn ergyd fawr iddo.