Y cyn-gadfridog Ratko Mladic (Evstefiev Mikhail CCA 3.0)
Mae cyfreithiwr Ratko Mladic, y cyn-gadfridog o Serbia sydd yn y ddalfa ar amheuaeth o droseddau rhyfel, wedi cyflwyno apêl ar ei ran.

Mae hyn yn debyg o ohirio ei estraddodi i’r llys rhyngwladol yn yr Hâg yn yr Iseldiroedd am o leiaf ddiwrnod.

Mae mab y cyn-gadfridog yn honni bod ei dad yn ddieuog o fod wedi gorchymyn yr hil-laddiad yn Srebrenica yn 1995 pryd y cafodd dros 8,000 o ddynion a bechgyn eu lladd.

Cafodd ei arestio’r wythnos ddiwethaf ar ôl bod ar ffo am 16 mlynedd. Mae ei gyfreithiwr yn honni ei fod yn rhy wael i sefyll ei brawf.

Ond dywed Bruno Vekaric, dirprwy erlynydd troseddau rhyfel Serbia fod Mladic yn defnyddio tactegau oedi, ac na ddylai dim byd rwystro ei estraddodi.