Mae Fifa wedi gwahardd dau o’i swyddogion mwyaf blaenllaw rhag cymryd rhan mewn unrhyw weithgareddau’n ymwneud â phêl-droed.

Fe ymddangosodd Mohamed Bin Hammam, a oedd wedi bwriadu ymgeisio am y llywyddiaeth, a Jack Warner, yr is-lywydd, gerbron pwyllgor moeseg Fifa heddiw, i ateb honiadau’n ymwneud â llygredd.

Addawodd y corff llywodraethu pêl-droed rhyngwladol y bydd yn cynnal ymchwiliad llawn i honiadau fod y ddau wedi cynnig arian i aelodau undeb pêl-droed y Caribî. Mae’r ddau’n gwadu’r honiadau.

Fodd bynnag, dywedodd Fifa hefyd “nad oes cyfiawnhad” i gynnal ymchwiliad i weithgareddau’r llywydd Sepp Blatter ac y bydd yr etholiad yn mynd ymlaen yn unol â’r bwriad ddydd Mercher – gyda Blatter fel yr unig ymgeisydd.

Fe ddaeth y cyhoeddiad oriau ar ôl i Bin Hammam dynnu’n ôl fel ymgeisydd am y llywyddiaeth. Mae Bin Hammam, o Qatar, a  Jack Warner yn cael eu cyhuddo o roi pentyrrau o $40,000 mewn arian parod i swyddogion pêl-droed y Caribî yn Trinidad yn gynharach y mis yma. Honnwyd i’r taliadau gael eu gwneud i sicrhau pleidleisiau i Bin Hammam yn ei ymgyrch etholiadol.

Wrth ddweud bod yr honiadau’n gwbl ddi-sail, meddai Bin Hammam:

“Dw i’n addo y byddaf i’n cerdded gyda fy mhen yn uchel a byddaf yn parhau i ymladd er budd y gêm. Fe wnes i’r penderfyniad i ymgeisio am lywyddiaeth Fifa oherwydd fy mod i wedi ymrwymo i newid o fewn Fifa.”