Aelodau Greenpeace ar eu ffordd i'r pod sy'n hongian o waelod y rig olew (llun o wefan y mudiad)
Mae tri o aelodau’r mudiad ymgyrchu amgylcheddol Greenpeace wedi meddiannu rig olew oddi ar arfordir yr Ynys Las – Greenland – i geisio rhwystro cwmni o’r Alban rhag tyllu am olew yno.

Caiff y rig olew 53,000 tunnell Leiv Eiriksson ei redeg gan Cairn Energy, cwmni olew a nwy o Gaeredin.

Dywed Greenpeace fod y tri’n aros mewn coden bwrpasol sy’n hongian o waelod y rig – o fewn llathenni i’r ebill tyllu – a bod ganddyn nhw ddigon o fwyd a diod i’w cadw nhw yno am 10 diwrnod.

O fewn golwg i’r rig ac i’r protestwyr mae rhagor o aelodau Greenpeace ar fwrdd eu llong Esperanza.

“Fe wnaethon ni fyrddio’r rig ychydig oriau cyn iddo gyrraedd ei safle drilio, sy’n golygu na all ddechrau ar ei waith,” meddai Ben Ayliffe, un o’r ymgyrchwyr ar fwrdd y llong.

“Rydym am ei rwystro rhag drilio gan na fyddai’n bosibl mynd i’r afael â gollyngiad olew yma oherwydd y tywydd oer a’i safle anghysbell.

“Byddai damwain oddi ar arfordir yr Ynys Las yn gwneud i’r gwaith o lanhau ar ôl trychineb Deepwater Horizon ymddangos yn syml.”