Map yn dangos lleoliad Malta (o wefan Wikipedia)
Mae Malta wedi pleidleisio o blaid caniatáu ysgariad mewn refferendwm yn y wlad fach draddodiadol Gatholig.

Dywedodd y Prif Weinidog Lawrence Gonzi y byddai senedd y wlad yn parchu ewyllys y bobol ac y bydd yn gweithio ar ddeddfwriaeth i gyflwyno ysgariadau.

Er bod y pleidleisiau’n dal i gael eu cyfrif, mae’r Prif Weinidog, a oedd yn erbyn ysgariad, wedi cydnabod ei fod wedi colli. Yn ôl amcangyfrifon, mae 52% o bobl y wlad wedi pleidleisio o blaid.

Mae hanes hir o draddodiadau Catholig yn y wlad sydd yn y Môr Canoldir i’r de o’r Eidal, ac mae dylanwad yr eglwys yn dal yn gryf. Mae gwaharddiad ar erthylu hefyd yn y wlad.