Ratko Mladic (Evstefiev Mikhail CCA 3.0)
Mae trefniadau diogelwch wedi cael eu tynhau yn Serbia wrth i gefnogwyr Ratko Mladic baratoi ar gyfer rali yn Belgrade yfory.

Mae cenedlaetholwyr eithafol y wlad yn flin fod arweinydd milwrol Serbiaid Bosnia wedi cael ei ddal ac y bydd yn cael ei anfon i sefyll i brawf yn y Llys Iawnderau Dynol yn yr Hague yn yr Iseldiroedd.

Cafodd Mladic ei arestio ddydd Iau. Roedd wedi bod ar ffo am 16 mlynedd ers i lys troseddau rhyfel y Cenhedloedd Unedig gyhoeddi cyhuddiadau o hil-laddiad yn ei erbyn am ei ran yn lladd tua 8,000 o ddynion a bechgyn Mwslimaidd yng nghyflafan Srebrenica yn 1995.

Dywedodd llefarydd ar ran heddlu Serbia bod y sefyllfa’n sefydlog yn y wlad ond y bydd trefniadau diogelwch yn cael eu tynhau.

Ychwanegodd y byddan nhw’n cadw llygad fanwl ar y protestiadau:

“Rydym yn cymryd camau i rwystro cynnydd mewn gweithgareddau grwpiau eithafol,” meddai’r llefarydd.

Mae ofnau am drais wrth i’r grwpiau eithafol asgell dde alw ar eu cefnogwyr, hwliganiaid pêl-droed yn bennaf, i ymuno â’r rali sydd wedi cael ei threfnu gan blaid genedlaetholgar y wlad y tu allan i’r senedd yn Belgrade yfory.