Y Cyrnol Gaddafi - o dan bwysau cynyddol
Mae lluoedd awyr Prydain a gwledydd eraill Nato wedi taro pencadlys milwrol allweddol yn Libya lle mae’r Cyrnol Muammar Gaddafi weithiau’n byw.

Mae’n annhebyg ei fod yno ar y pryd, gan ei fod yn ôl rhai adroddiadau, yn aros mewn ysbyty wahanol bob nos.

Dywed llefarydd ar ran Nato nad oedd yn darged yn yr ymosodiad.

Cafodd y pencadlys, canolfan Bab al-Aziziyah yn Tripoli, ei tharo yn oriau mân y bore. Hon oedd yr un ganolfan ag a gafodd ei difrodi gan awyrennau rhyfel America 25 mlynedd yn ôl.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ar ôl i uwchgynhadledd o wledydd G8 ddoe ailgadarnhau eu  galwad bod angen i Gaddafi fynd.

Mae Rwsia wedi cynnig ceisio taro bargen gyda’r unben i adael y wlad y mae wedi ei rheoli ers 40 mlynedd. Mae hyn yn ddatblygiad arwyddocaol, gan fod Rwsia wedi bod yn gyson feirniadol o gyrch bomio Nato.

Y gred yw fod y Kremlin yn awyddus i ddylanwadau ar y newid cyflym sy’n digwydd trwy’r byd Arabaidd, a’u bod yn disgwyl y bydd marchnad olew a nwy Libya o dan reolaeth y gwrthryfelwyr yn fuan.

Mae amheuon fodd bynnag ynghylch faint o ddylanwad sydd gan Rwsia ar Gaddafi bellach, ac mae Ffrainc, Prydain a’r Almaen o’r farn nad oes unrhyw ddiben mewn cynnal trafodaethau â’r unben.