Llain Gaza (o wefan Wikipedia)
Mae’r Aifft wedi ailagor y ffin rhyngddi a Llain Gaza, gan adfer y prif gysylltiad rhwng Palesteiniaid y Llain a’r byd y tu allan.

Yn sgil blocâd gan yr Aifft dros y pedair blynedd ddiwethaf, mae’r 1.5 miliwn o drigolion Llain Gaza wedi bod yn garcharorion yn eu gwlad eu hunain, gan fod y ffin rhyngddi ac Israel yn gwbl gaeedig.

Fe fydd y Palesteiniaid yn gallu teithio dramor unwaith eto o heddiw ymlaen.

Roedd yr Aifft, ynghyd ag Israel, wedi cyflwyno’r gwaharddiad ar ôl i Hamas gipio grym yn Llain Gaza ym Mehefin 2007, gyda’r bwriad o geisio gwanhau’r grŵp Islamaidd milwriaethus.

Ond ers i Arlywydd yr Aifft, Hosni Mubarak, gael ei ddisodli ym mis Chwefror eleni, mae llywodraeth y wlad wedi ymrwymo i godi’r gwaharddiadau a gwella’r berthynas â’r Palesteiniaid.