Osama bin Laden
Mae swyddogion y Pentagon wedi awgrymu y bydd fideo o ‘angladd’ Osama bin Laden yn cael ei ryddhau cyn bo hir.

Mae’n bosib y bydd lluniau o’r corff cyn iddo gael ei ollwng i mewn i For Arabia hefyd yn cael eu rhyddhau.

Penderfynodd yr Unol Daleithiau ‘gladdu’ corff Osama bin Laden cyn gynted a bo modd er mwyn osgoi cythruddo Mwslemiaid. Yn ôl eu traddodiadau nhw mae’n rhaid claddu corff o fewn 24 awr.

Gollyngwyd y corff i mewn i’r môr ddydd Llun er mwyn sicrhau na fyddai’r man lle y cafodd Osama bin Laden ei gladdu yn troi yn gysegrfa i’w ddilynwyr.

Ond mae’r penderfyniad i gael gwared ar y corff yn syth wedi bod yn fêl ar fysedd rhai sy’n benderfynol o honni nad yw Osama bin Laden wedi ei ladd o gwbl.

“Mae unrhyw un sy’n credu marwolaeth ddiweddaraf Osama bin Laden yn dwp,” meddai’r ymgyrchydd Cindy Sheehan ar Facebook.

Yn ogystal â lluniau a fideo mae’r Unol Daleithiau wedi cadw sampl DNA o’r corff sy’n ei gwneud hi’n “99.9% sicr” mai Osama bin Laden oedd y dyn a laddwyd.

Dywedodd John Brennan, pennaeth gwrthderfysgaeth yr Unol Daleithiau, eu bod nhw’n parhau i drafod pa ddeunydd fyddai’n cael ei ryddhau i’r cyhoedd.

Y nod oedd sicrhau na fyddai unrhyw un yn gallu honni fod Osama bin Laden yn dal yn fyw, meddai.