Osama bin Laden
Mae Llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi dweud ei fod yn “annhebygol iawn” nad oedd Osama bin Laden yn cael ei warchod gan gefnogwyr o fewn Pacistan.

Ddoe cadarnhaodd arbenigwr y Tŷ Gwyn ar wrthderfysgaeth, John Brennan, nad oedden nhw wedi rhoi gwybod i Lywodraeth Pacistan cyn yr ymosodiad laddodd bin Laden.

Daethpwyd o hyd i’r arweinydd drwg-enwog mewn tŷ mawr yn Abbottabad, 35 milltir o’r brifddinas Islamabad a dwy filltir o brif academi filwrol Pacistan.

Mae sawl arbenigwr ar gudd-wybodaeth yn credu ei fod wedi ei warchod gan garfan o fewn asiantaeth ISI Pacistan.

Dywedodd John Brennan na fyddai Osama bin Laden wedi gallu ffoi am ddegawd heb ryw fath o gymorth o fewn Pacistan.

“Mae’n annhebygol iawn nad oedd gan bin Laden ryw fath o system i’w gefnogi mewn gwlad oedd wedi caniatáu iddo aros yno am gyfnod estynedig,” meddai.

“Rydyn ni’n mynd i ddilyn bob trywydd er mwyn darganfod pwy oedd yn cefnogi bin Laden.”

Ychwanegodd John Brennan fod tri pherson arall wedi marw yn ystod yr ymosodiad yn Abbottabad.

Roedden nhw yn cynnwys mab ac un o wragedd bin Laden, a oedd wedi ei defnyddio fel “tarian ddynol” er mwyn amddiffyn y dyn ei hun.

“Roedd hi’n darian,” meddai John Brennan. “Nid yw’n glir eto a oedd hi yno o’i gwirfodd ynteu wedi ei rhoi yno.”