Osama bin Laden
Mae Osama bin Laden, un o arweinwyr mudiad terfysgol Al Qaida oedd yn gyfrifol am gynllunio ymosodiadau 9/11, wedi marw ym Mhacistan.

Cadarnhaodd yr Arlywydd Barack Obama fod Bin Laden wedi marw o ganlyniad i un o weithredoedd milwrol yr Unol Daleithiau.

Wrth siarad o’r Tŷ Gwyn, dywedodd Barack Obama ei fod wedi rhoi sêl bendith i’r ymosodiad.

Mae corff y terfysgwr bellach yn nwylo’r Unol Daleithiau, meddai. Yn ôl adroddiadau fe fydd yn cael ei gladdu yn y môr.

Dywedodd yr Arlywydd fod “lladd neu ddal” y terfysgwr wedi bod yn “flaenoriaeth” iddo yn y rhyfel yn erbyn al Qaida.

Ychwanegodd fod yr ymosodiad ddydd Sul wedi targedu cuddfan Osama bin Laden yng nghanol Pacistan.

Ymgasglodd torfeydd mawr y tu allan i’r Tŷ Gwyn er mwyn dathlu ar ôl cyhoeddiad yr Arlywydd.

Cuddfan Osama bin Laden

Yn groes o sïon ei fod yn byw ar y ffin rhwng Afghanistan a Pacistan, roedd Osama bin Laden wedi bod yn byw mewn cartref moethus £1m i’r gogledd o brifddinas y wlad, Islamabad.

Roedd Barack Obama wedi cael gwybod bod Osama bin Laden yn cuddio yno ym mis Mawrth. Yn dilyn cyfres o gyfarfodydd rhoddodd sêl bendith i’r cynllun i ladd y terfysgwr ar 29 Ebrill.

Parhaodd y weithred filwrol i ladd Osama bin Laden 40 munud yn unig. Cafodd tri dyn arall eu lladd, gan gynnwys un o feibion Osama bin Laden.

‘Rhyddhad’

Mewn datganiad dywedodd y cyn-Arlywydd Bill Clinton fod heddiw yn “ddydd hynod arbennig nid yn unig i deuluoedd y rheini gollodd eu bywydau ar 9/11 neu ymosodiadau eraill al Qaida ond i bawb ar draws y byd sydd eisiau adeiladu dyfodol o heddwch, rhyddid a chydweithrediad er mwyn ein plant”.

Croesawodd y Prif Weinidog David Cameron y datblygiad mewn datganiad gan 10 Stryd Downing.

“Fe fydd y newydd fod Osama bin Laden wedi marw yn rhyddhad mawr i bobol ym mhob cwr o’r byd,” meddai.

“Roedd Osama bin Laden yn gyfrifol am yr ymosodiadau terfysgol mwyaf erchyll erioed – am 9/11 a nifer o ymosodiadau, sydd wedi lladd miloedd, gan gynnwys Prydeinwyr.

“Mae’n llwyddiant mawr ei fod wedi ei ddal ac na fydd yn gallu parhau â’i ymgyrch derfysgol fyd-eang.

“Mae’n gyfle hefyd i gofio’r rheini gafodd eu llofruddio gan Osama bin Laden, a’r rheini sy’n gweithio bob awr o’r dydd i’n gwarchod ni rhag terfysgaeth.

“Rydw i’n llongyfarch yr Arlywydd Obama a’r rheini fu’n gyfrifol am y weithred filwrol.”