Libya
Mae gwraig ffotograffydd sydd ar goll yn Libya, wedi galw eto am help i ddod o hyd i’w gwr.

Mae Penny Sukhraj yn dweud ei bod yn ysu i glywed unrhyw newydd am ei gwr, Anton Hammerl sydd, yn ôl pob perygl, wedi cael ei gipio gan filwyr sy’n deyrngar i Gaddafi. Mae yna le i gredu bod tri newyddiadurwr arall hefyd wedi eu cipio yr un pryd ag o ar gyrion tref olew Brega yn nwyrain y wlad ar Ebrill 5.

Mae’r ffotograffydd 41 mlwydd oed, sy’n byw yn Surbiton, Surrey, ond sy’n ddinesydd De Affrica ac Awstria, yn cael ei ddal yn gaeth, yn ôl pob tebyg, yng nghyffiniau Tripoli.

Dydi teulu Mr Hammerl ddim wedi clywed gair ganddo ers iddo ddiflannu, er bod y tri newyddiadurwr arall – dau o’r Unol Daleithiau a ffotograffydd o Sbaen – wedi cael ffonio eu teuluoedd y penwythnos diwethaf.

Roedd y ffotograffydd – sydd wedi ennill gwobrau am ei waith, ac sydd wedi gweithio yn Affrica cyn hyn – wedi bod yn gweithio yn llawrydd yn Libya am wythnos cyn cael ei ddal.