Mae'r trychineb diweddar yn atomfa Fukushima yn Japan wedi cynyddu pryderon am ddiogelwch ynni niwclear
Mae tua 2,000 o brotestwyr wedi bod yn protestio y tu allan i atomfa newydd sydd wrthi’n cael ei chwblhau yn Taiwan.

Maen nhw’n galw ar y llywodraeth i’w throi’n amgueddfa sy’n dangos peryglon ynni niwclear.

Mae’r pwerdy sydd wedi costio £4.1 biliwn yng ngogledd Taiwan i fod i gychwyn gweithio’r flwyddyn nesaf ar ôl blynyddoedd o ohirio ac anghydfod gwleidyddol ynghylch ei ddiogelwch.

Dywed trefnwyr y brotest fod y trychineb niwclear diweddar yn Japan wedi taflu amheuon ynghylch addewidion llywodraethau am ddiogelwch niwclear.

Yn ôl Liao Pen-chuan, un o’r trefnwyr, dylai gwlad mor boblog â Taiwan ddefnyddio dulliau diogelach nag ynni niwclear i gynhyrchu trydan – fel nwy naturiol ac ynni adnewyddadwy.

Mae llywodraeth Taiwan wedi addo peidio â gosod ffyn tanwydd yn yr atomfa hyd nes y bydd yn bodloni’r holl ofynion diogelwch.