Yr Arlywydd Obama - wedi cael ei syfrdanu gan faint y gyflafan
Mae nifer y marwolaethau o achos y stormydd gwynt yn nhaleithiau deheuol America wedi codi i 337 heddiw – gan eu gwneud yr ail waethaf yn hanes y wlad

Fe ddigwyddodd y rhai gwaethaf erioed ar 18 Mawrth 1925, pryd y cafodd 747 o bobl eu lladd mewn stormydd a ysgubodd trwy Missouri, Illinois ac Indiana. Roedd hyn cyn dyddiau radar i allu rhybuddio cymunedau fod stormydd ar y ffordd.

Talaith Alabama sydd wedi cael ei waethaf y tro hwn lle mae o leiaf 246 o bobl wedi cael eu lladd, ac mae hyd at filiwn o gartrefi a busnesau’n dal heb bwer.

Pan gyrhaeddodd yr Arlywydd Barack Obama y dalaith ddoe, dywedodd ei fod wedi ei syfrdanu gan faint y gyflafan.

“Dw i erioed wedi gweld dinistr fel hyn,” meddai wrth edrych ar y difrod yn nhref Tuscaloosa, lle cafodd o leiaf 45 o bobl eu lladd.

Oriau’n ddiweddarach, fe arwyddodd ddatganiadau trychineb ar gyfer Mississippi a Georgia, yn ogystal ag Alabama, yn addo help gan y llywodraeth.