Y Cyrnol Gaddafi
Mae o leiaf ddau o bobl wedi marw mewn gwrthdrawiadau wrth i filwyr llywodraeth Libya ymosod ar ardal yn llawn pobl gyffredin yn ninas Misrata, yn ôl gwrthryfelwyr yn y wlad.

Fe gafodd cyrff dau ddyn  eu cludo i Ysbyty Hilkma wrth i fomiau ffrwydro’n uchel yn y ddinas.

Mae lluoedd y Cyrnol Gaddafi wedi bod yn ymosod o faes awyr gerllaw.

Mae’r frwydr am Misrata, sydd wedi parhau ers bron i ddau fis, wedi lladd cannoedd o bobl ac wedi arwain at rybuddion o argyfwng dyngarol.

Eisoes, mae lluoedd Llywodraeth Libya wedi bod yn ymosod yn galed ar borthladd Misrata.

Ar ôl i ymosodiadau awyr gan NATO orfodi lluoedd y Cyrnol Gaddafi i adael y ddinas, maen nhw wedi bod yn ymosod arni gyda rocedi a gynnau mawr.