Arlywydd Syria, Bashar Assad
Mae gwrthdaro rhwng rhannau o fyddin Llywodraeth Syria a’i gilydd ar ôl i’r Arlywydd Bashar Assad orchymyn mesurau llymach yn erbyn protestwyr yn Daraa, yn ôl grwpiau iawnderau dynol.

Mae mwy na 450 o bobl wedi’u lladd yn Syria – tua 100 o bobl yn Daraa yn unig – ac mae cannoedd o brotestwyr wedi’u cadw yn y ddalfa ers i’r gwrthdrawiadau yn erbyn Bashar Assad ddechrau yng nghanol mis Mawrth.

Dyma’r arwydd ddiweddaraf bod craciau’n datblygu yn y gefnogaeth i Bashar Assad.

Mae tua 200 o aelodau o’r Blaid Baath sy’n rheoli yn Syria eisoes wedi ymddiswyddo oherwydd y ffordd mae’r Arlywydd yn ymdrin â’r protestiadau.

Yn ôl Ausama Monajed, llefarydd ar ran grŵp sy’n gwrthwynebu Llywodraeth Syria o’r tu allan i’r wlad, mae’r gwrthdrawiadau wedi bod yn digwydd ers dydd Llun.

“Mae rhai catrawdau wedi bod yn gwrthod ymosod ar bobl,” meddai.