Barack Obama - ar ei ffordd i ardal y stormydd
Mae o leiaf 291 o bobol wedi marw ar draws chwe thalaith yn yr Unol Daleithiau ar ôl i stormydd gwynt daro’r wlad.

Fe gafodd y rhan fwya’ o’r rheiny eu lladd yn Alabama yn y gwyntoedd gwaethaf i’r wlad eu gweld ers deugain mlynedd.

Mae’r Arlywydd Barack Obama’n ymweld â’r ardal heddiw, lle mae degau o gorwyntoedd – neu tornados – wedi taro.

“Does gyda ni ddim rheolaeth dros bryd neu ble y bydd storm yn taro, ond fe allwn ni reoli sut yr ’yn ni’n ymateb iddi,” meddai heddiw.

“Dw i eisiau i bob Americanwr sydd wedi’i effeithio gan y trychineb wybod y bydd y Llywodraeth yn gwneud popeth allwn ni i helpu ac y byddwn i’n sefyll gyda phobol ac yn ail-adeiladu.”

Mae timau achub yn parhau â’r ymdrech i chwilio drwy rwbel miloedd o adeiladau i ddod o hyd i bobol sydd wedi goroesi.