Pab Bened XVI
Mae’r Pab Bened XVI am gysylltu ar loeren gyda dau ofodwr o’r Eidal sydd ar fwrdd yr Orsaf Ofod Ryngwladol. Dyma fydd y tro cyntaf y bydd unrhyw Bab wedi gwneud galwad i’r gofod.

Yn ôl adroddiad ym mhapur newydd y Fatican, L’Osservatore Romano, heddiw, fe fydd y cysylltiad yn cael ei wneud ar Fai 4, wedi i’r llong ofod Endeavour gyrraedd yr orsaf. Mae’r llong honno’n bwriadu cychwyn ar y daith ddydd Gwener nesaf (Ebrill 29).

Fe fydd dau Eidalwr yn cyfarfod ei gilydd bryd hynny – Roberto Vittori, sydd ar fwrdd y llong ofod, a Paolo Nespoli, sy’n byw yn yr orsaf ofod.

Fe fydd Mr Vittori yn cario medal arian sydd wedi ei rhoi gan y Pab. Mae gofodwyr eraill yr orsaf yn dod o Rwsia a’r Unol Daleithiau.