Rhian Yoshikawa
 
Bydd awdurdodau Japan yn meddwl o ddifrif am sut i greu ynni ‘glân’ yn sgil y ddamwain niwclear yno, yn ôl un Gymraes sy’n byw yno.

Ac mae Rhian Yoshikawa, sy’n byw ar arfordir Japan ers ugain mlynedd a mwy, wedi dweud wrth Golwg360 ei bod yn gobeithio y bydd y cwmni sy’n rhedeg gorsaf niwclear Fukushima yn “dysgu gwers” oherwydd yr argyfwng niwclear.

Ddoe, roedd y cwmni sy’n gyfrifol am ddiogelwch y safle yn chwilio am ffyrdd newydd o dynnu ffyn tanwydd o bwll un o adweithyddion yr orsaf. Maen nhw’n poeni am y cynnydd mewn ymbelydredd a thymheredd yr atomfa.

Daw hyn wrth i ragor o bobl feirniadu cwmni Tepco am eu ffordd o drin y problemau a gododd yn sgil daeargryn a tswnamni 11 Mawrth.

Fe ddywedodd Rhian Yoshikawa, sy’n byw mewn tref glan môr tua dwy awr i’r gorllewin o’r brifddinas, Tokyo, y dylai bod Tepco wedi “paratoi’n well” yn nhermau diogelwch yr orsaf – ond mae’n cydnabod ei bod yn  “hawdd dweud hynny rŵan!”

“Gobeithio eu bod nhw wedi dysgu eu gwers ac na fyddan nhw’n gwneud yr un camgymeriad eto,” meddai.

“Bydd lot o son rwan am ddod o hyd i ffyrdd eraill o gynhyrchu trydan a hefyd llawer o feddwl am sut i fyw yn fwy gwyrdd,” meddai’r Gymraes sy’n wreiddiol o Langefni.

Yr un lefel â Chernobyl

Mae Rhian Yoshikawa yn mynnu nad yw’r ffaith bod lefel bygythiad yr argyfwng wedi codi o bump i saith yn gwneud “llawer o wahaniaeth i’r bobl”.

Yr wythnos hon, mae asiantaeth diogelwch niwclear Japan wedi dweud fod difrifoldeb yr argyfwng yng ngorsaf niwclear Fukushima Dai-ichi ar yr un lefel â thrychineb Chernobyl.

Mae lefel saith yn dynodi “damwain ddifrifol” â “chanlyniadau pellgyrhaeddol”. Dyna’r  lefel uchaf ar y raddfa gafodd ei chreu gan banel o arbenigwyr o’r Asiantaeth Egni Atomig Rhyngwladol yn 1989.

“Mae’r pryder yr un fath ac erioed,” meddai Rhian Yoshikawa. “Hefyd, nid yw lefelau’r ymbelydredd wedi codi yn ddiweddar. Y ffaith bod yna gymaint o ymbelydredd wedi dianc o’r orsaf yn nyddiau cyntaf yr argyfwng  sydd wedi achosi codi’r lefel – nid beth sydd yn digwydd ar hyn o bryd. Oherwydd hyn, nid oes panig nawr.

“Y teimlad ydi fod codi’r lefel yn mynd i gymell y llywodraeth a’r cwmni trydan i wneud mwy o ymdrech i ddelio â’r broblem yn sydyn,” meddai.

“Mae’r lefel wedi ei chodi i saith oherwydd beth ddigwyddodd fis yn ôl. Hyd yn oed yr adeg hynny, doedd yr ymbelydredd ddim ond yn 10% o’r hyn gafwyd yn Chernobyl.

“Efallai y bydd hi’n cymryd blynyddoedd maith i gael gwared â’r ymbelydredd o gwmpas yr orsaf ac o’r tir mewn rhai ardaloedd o Fukushima,” meddai.

Prydeinwyr yn dychwelyd

Fe ddywedodd Rhian Yoshikawa fod “llawer o’r Prydeinwyr a aeth yn ôl [i Brydain] ar ôl y daeargryn wedi dychwelyd erbyn hyn”.

Ar hyn o bryd, mae’n dweud bod modd “cadw trefn” ar ei bywyd ei hun yn Japan ac nad oes cynlluniau ganddi i ddod i Gymru yn y dyfodol agos.

“Ar adeg fel hyn, mae’n naturiol i fod eisiau bod yn agos at dy deulu ac mi faswn i wrth fy modd cael gweld pawb adref, ond ni allaf adael fy mywyd yma ar hyn o bryd.”

Wrth i Brydeinwyr ddychwelyd, fe ddywedodd bod “tai dros dro yn cael ei hadeiladu” ond y bydda hi’n cymryd dros ddau fis o leiaf i gael lle i bawb.

“Ond mae’r lonydd wedi trwsio a threnau ag ati yn rhedeg felly mae bwyd a diod yn cyrraedd y llochesi yn well. Mae’r plant yno wedi dechrau mynd i’r ysgol eto a gwaith wedi dechrau a’r glirio’r llanast. Beth sydd yn anhygoel ydi bod y bobol mor gadarnhaol!”