Adeiladau yn rhanbarth Zhejiang China
Bu’n rhaid i China wario mwy ar fewnforio cynnyrch nac y llwyddodd i’w werthu dramor yn ystod chwarter cyntaf 2011.

Dyna’r tro cyntaf i China wneud hynny mewn chwe blynedd, wrth i bris mewnforio cynnyrch godi yn sylweddol.

Dywedodd llywodraeth y wlad fod China wedi gwneud colled o $1.02 biliwn wrth fasnachu rhwng mis Ionawr a mis Mawrth.

Roedd cynnydd mawr mewn allforion yn chwarter cyntaf y flwyddyn, o 26%, ond roedd cynnydd mwy fyth mewn mewnforion, o 32.6%.

Roedd China wedi mewnforio mwy o nwyddau mecanyddol a trydanol, gan gynnwys ceir, nac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac roedd prisiau’r rheini wedi cynyddu yn gyflym.

Mae arbenigwyr yn disgwyl i China fod ar ei hennill o $160-200 biliwn eleni ond fe allai’r bwlch gulhau os yw costau olew a nwyddau yn parhau’n uchel.