Johanna Sigurdardottir
Mae trigolion Gwlad yr Iâ wedi pleidleisio yn erbyn cynnig gan lywodraeth y wlad i dalu $5 biliwn yn ôl i Brydain a’r Iseldiroedd yn dilyn yr argyfwng ariannol.

Fe gollodd y ddwy wlad yr arian oedd wedi ei fuddsoddi yn y banc Icesave a aeth i’r wal yn ystod trafferthion 2008.

Roedd canlyniadau cynnar refferendwm ar y mater yn awgrymu fod y bleidlais ‘Na’ ar 57%  a’r bleidlais ‘Ie’ ar 43%.

“Mae’n ganlyniad siomedig,” meddai’r prif weinidog Johanna Sigurdardottir.

Roedd etholwyr y wlad wedi gwrthod cynllun tebyg mewn refferendwm y llynedd.

Gobaith y wlad oedd y byddai pleidlais ‘Ie’ yn datrys yr anghydfod sydd wedi achosi drwgdeimlad rhwng y tair gwlad.

Wrth i Icesave chwalu bu’n rhaid i Brydain a’r Iseldiroedd fenthyg arian er mwyn talu eu dinasyddion yn ôl, ond nawr maen nhw eisiau i Wlad yr Iâ eu talu nhw.

Mae Prydain a’r Iseldiroedd wedi bygwth atal cais Gwlad yr Ia i fod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd os nad ydyn nhw’n cael yr arian.

Roedd llywodraeth Gwlad yr Iâ wedi dod i gytundeb i dalu’r arian yn ôl rhwng 2016 a 2046.

“Mae Gwlad yr Ia mewn twll,” meddai Helgi Sigurdsson, newyddiadurwr 36 oed fuodd yn pleidleisio ar ddiwrnod stormus yn y brifddinas Reykjavik.

“Mae gan y wlad ddau ddewis ac mae’r ddau yn drewi. Roedd llawer iawn o bobol yn sefyll am amser hir yn dal y papur pleidleisio.”

Dywedodd Skuli Jonas Skulason, dyn busnes 40 oed, ei fod wedi pleidleisio ‘Ie’.

“Mae’r seneddwyr wedi gwneud eu penderfyniad ac maen nhw’n gwybod mwy am y peth nag ydw i,” meddai.